Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion
Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs
Committee
Ymchwiliad Bioamrywiaeth | Biodiversity
Inquiry
BIO
05
Ymateb gan :
Parciau Cenedlaethol Cymru
Evidence from
: National Parks Wales
1.
Mae
Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Arfordir Penfro ac Eryri
yn cwmpasu 20% o dir Cymru. Mae’r pum Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol yn cwmpasu 5% arall o dir
Cymru.
2.
Mae’r tri awdurdod parc
cenedlaethol, sy'n gweithio mewn partneriaeth fel Parciau
Cenedlaethol Cymru (PCC), yn croesawu'r cyfle i gyfrannu at
ymchwiliad y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Materion Gwledig ar adfer bioamrywiaeth yng nghyd-destun y Cynllun
Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig.
3.
Mae trosolwg y Pwyllgor o’r ymchwiliad yn nodi
cyd-destun y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Nodwn bod yr Adroddiad ar
Gyflwr yr Adnoddau Naturiol 2016 yn clustnodi bod yr achosion sydd
wrth wraidd y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn rhan annatod o’r
systemau cymdeithasol ac economaidd, ac yn awgrymu y dylai
partneriaid ystyried atebion integredig sy’n seiliedig ar
leoedd ac sy'n cyfrannu i’r eithaf at nodau llesiant
Cymru.
4.
Mae strwythur cymorth ôl-Brexit Llywodraeth Cymru yn
gyfle unigryw i gyfrannu at yr atebion hyn, drwy roi’r
cymhellion cywir ac offer i reolwyr tir er mwyn adfer tirwedd sy'n
gyfoethog o ran natur, ac i sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn
byw mewn gwlad sy’n fwy cyfoethog mewn bywyd gwyllt nag ydyw
heddiw.
5.
Mae’r mwyafrif o sylwadau'r PCC yn deillio o brofiadau'r
awdurdodau wrth redeg rhaglenni rheoli tir cadwraeth sy'n ategu
cynlluniau amaeth-amgylcheddol. Fel sylw cyffredinol, mae PCC
o’r farn ei bod yn hanfodol bod Cymru yn cadw sector cryf o
reolaeth tir sy'n gallu cyflawni’r gwaith sydd ei angen i
ddarparu bwyd a nwyddau cyhoeddus ac all helpu i fynd i'r afael
â'r heriau a achosir gan newid yn yr hinsawdd. Felly, mae PCC
yn llwyr gefnogi’r egwyddor o gael cynllun Nwyddau
Cyhoeddus.
C1:
Sut allai cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth
Cymru, a nodir yn Brexit a'n Tir, gael ei ddefnyddio i adfer
bioamrywiaeth?
Uchelgais
- Bydd adfer natur yng
Nghymru yn gofyn am newid sylweddol yn y raddfa uchelgais ar gyfer
newid rheolaeth tir. Os yw am atal a gwrthdroi'r dirywiad mewn
bioamrywiaeth, rhaid i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig
ehangu’n sylweddol y cyfranogiad a wneir mewn adferiad
ecolegol ar hyd a lled Cymru.
- Mae'r ymadrodd a
fathwyd yn Adolygiad Lawton (Making Space for Nature, adroddiad i
Defra 2010) yn berthnasol: rhaid i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus greu
mwy o gynefinoedd, cynefinoedd mwy o faint, cynefinoedd gwell a
chynefinoedd cydgysylltiedig i glustogi a chynyddu maint y
safleoedd cadwraeth sydd gennym ar hyn o bryd a chaniatáu
tirwedd mwy hydraidd i fywyd gwyllt esblygu.
- Mae PCC o’r
farn bod rhaid ystyried adfer bioamrywiaeth law yn llaw
â’r canlynol:
·
nwyddau cyhoeddus eraill (gan gynnwys tirwedd, llonyddwch ac
awyr dywyll y nos, ansawdd yr aer, priddoedd, adnoddau ac ansawdd
dŵr, a gwerthoedd treftadaeth a diwylliannol sy'n gysylltiedig
â bioamrywiaeth a'r dirwedd)
·
agweddau ar lesiant (e.e. cadernid cymunedau gwledig a
materion sgiliau a gweithlu o ran cyflawni
bioamrywiaeth)
a
·
risgiau amgylcheddol ac economaidd ehangach (e.e. newid yn yr
hinsawdd, rhywogaethau ymledol, plâu a
chlefydau,
Brexit).
- Mae PCC yn gweld bod
perygl y gall gwahaniaethau mewn cyllido a / neu yn nifer y
cyfranogwyr sy’n cymryd rhan, rhwng y cynllun Nwyddau
Cyhoeddus arfaethedig a’r Cynllun Cadernid Economaidd, arwain
at y ffaith nad yw'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus yn gallu cyflawni'r
newid sylweddol mewn adfer bioamrywiaeth sydd ei angen. Rhaid
rhoi’r adnoddau priodol i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus
arfaethedig.
- Mae PCC yn deall
egwyddor y cynllun Cadernid Economaidd. Fodd bynnag, barnwn
ei bod yn bwysig dysgu o raglenni blaenorol o gymhelliant
cynhyrchu, a sicrhau bod ffactorau amgylcheddol, llesiant a
chymdeithasol yn cael eu hymgorffori yn y gwaith o ddylunio'r
cynllun. Bydd yn dyngedfennol bwysig i osod y llawr ar y lefel
gywir i lwyddo i gyflawni’r gwelliannau amgylcheddol eang a
ddymunir. Gellid cymhwyso hyn i'r cynllun Cadernid Economaidd er
mwyn iddo fod yn bositif neu'n niwtral i'r cynllun Nwyddau
Cyhoeddus ac er mwyn bod yn sbardun tuag at y cynllun Nwyddau
Cyhoeddus.
Hirdymor
11.Bydd angen i'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig roi
sicrwydd a hyder o gymorth hirdymor i reolwyr tir os yw adfer
bioamrywiaeth i fod yn rhan o opsiwn busnes hirdymor hyfyw. Felly,
dylai'r cynllun fod yn un hirdymor - yn amodol ar adolygiad
o’r gallu i ymaddasu, ac yn gynllun all ymateb i newid
amgylcheddol ac economaidd, ac all ragweld y newid hwnnw - ond yn
gynllun sydd, i bob pwrpas, yn ddiderfyn.
Yn gystadleuol
â defnydd arall o dir
- Rhaid i'r cynllun
fod ar gael ac yn ddeniadol i bob rheolwr tir yng Nghymru. Awgrymir
y dylai'r cynllun gynnwys tir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer
cynhyrchu bwyd dwys, tir a reolir yn benodol ar gyfer
bioamrywiaeth, a phopeth rhwng y ddau. (Yn dibynnu ar yr opsiynau a
ffefrir gan Lywodraeth Cymru ar sut i ganiatáu mynediad i
denantiaid a phorwyr tir comin, efallai y bydd gofyn
adolygu’r cyfreithiau tenantiaeth amaethyddol a’r
cyfreithiau tir comin.)
- Rhaid i’r
taliadau ar gyfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus eraill fod yn
gystadleuol â defnydd arall a wneir o dir, ac yn gallu amlygu
manteision cymharol gwahanol fathau o dir fferm a systemau. Fel
egwyddor gyffredinol, dylai mwy o fioamrywiaeth gyfateb i fwy o
incwm. Mae hyn yn awgrymu newid o fformiwla sy’n rhoi’r
flaenoriaeth i elw i fformiwla sy’n seiliedig ar y nwyddau
a’r gwasanaethau a ddarperir – sef dull sy'n seiliedig
ar gymell canlyniadau ac sy’n gystadleuol yn y
farchnad.
- Efallai y bydd y
Pwyllgor am ystyried a ddylai'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus
arfaethedig wobrwyo achosion hanesyddol a chyfredol o reoli tir
cadwraeth am y canlyniadau a gyflawnwyd eisoes, ac os felly, sut y
gellid gwneud hynny. (Efallai y bydd potensial ar gyfer 'taliad
sylfaenol' gwahaniaethol sy’n seiliedig ar werthoedd nwyddau
cyhoeddus presennol, er enghraifft).
- Rhaid i reolwyr tir
allu deall ac ymddiried yn y ffrwd newydd o incwm sylweddol o dan y
cynllun Nwyddau Cyhoeddus wrth iddynt baratoi eu busnesau ar gyfer
newid. Gall llawer o’r cyfathrebu ar faterion
bioamrywiaeth fel budd i’r cyhoedd ddigwydd yn fwyaf
effeithiol ar lefel leol, ochr yn ochr â thrafod syniadau ar
gyfer adfer bioamrywiaeth a nwyddau cyhoeddus
eraill.
Cydweithredu a chynlluniau sy’n seiliedig ar
ganlyniadau
- Mae tystiolaeth i
awgrymu bod cynlluniau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn
cynnig nifer o fanteision dros gynlluniau traddodiadol sy'n
seiliedig ar ragnodi. Hoffem dynnu sylw'r Pwyllgor at y
cynlluniau canlynol (er bod nifer fawr o enghreifftiau o'r DU,
Ewrop a thu hwnt):
·
Rhaglen Ffermio ar gyfer Cadwraeth Burren http://burrenprogramme.com/impact/outputs/
·
Prosiect Dyfodol FfermioDartmoor (enghraifft ar dir comin)
https://ecosystemsknowledge.net/sites/default/files/wp-content/uploads/2014/6/Dartmoor-Farming-Futures-Independent-Project-Evaluation.pdf
·
Astudiaeth beilot ar y Cynllun Taliadau Amaeth-Amgylcheddol
sy’n seiliedig ar Ganlyniadau yn Lloegr
https://www.gov.uk/government/publications/results-based-agri-environment-payment-scheme-rbaps-pilot-study-in-england
17.Gall cynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau gynnig mwy o
ryddid a hyblygrwydd i reolwyr tir benderfynu sut i reoli eu tir,
gan agor drysau i reolwyr cynllun i gefnogi cyflwyno rheolwyr tir
drwy hyfforddiant, mentora a chydweithio, gan feithrin lefelau uwch
o ddeialog a dealltwriaeth a pherchnogaeth o amcanion y
cynllun.
18.Mae’r Cynllun Burren (er enghraifft) wedi defnyddio dull
hybrid sy'n cyfuno taliad cyfradd sefydlog ochr yn ochr â
phremiwm sy'n seiliedig ar ganlyniadau all helpu i liniaru
ansicrwydd a risgiau tybiedig i dirfeddianwyr sy'n cymryd rhan mewn
cynlluniau sy'n seiliedig ar allbwn.
19.Gall cynlluniau sy'n seiliedig ar ganlyniadau hefyd feithrin
cydweithredu â chydweithwyr ac mewn mentrau yn ôl
graddfa’r dirwedd - felly nid oes angen i ffermydd bach ond
uchel eu gwerth natur na’r rhai sydd newydd ymuno
â’r cynllun fod o dan anfantais os ydynt wedi'u lleoli
mewn lleoliad isel ei werth natur.
20.Gall cydweithio gynnig mwy o dryloywder a gwell gwerth am
arian. Os llwyddir i gyflawni lefelau uwch o allbwn amgylcheddol
drwy gydweithio, gellir gwobrwyo hyn drwy daliadau
uwch.
21.Mae
cytundebau sy’n seiliedig ar ganlyniadau yn cyfuno i ffurfio
mesuriadau ystyrlon o fonitro cynllun mewn modd na all monitro
cydymffurfiaeth mewn cynlluniau sy’n seiliedig ar ragnodi.
(Rydym yn gwneud sylwadau pellach ar hyn yng nghwestiwn
3.)
22.Mae’n debygol y bydd angen i'r cynllun (yn lleol ac yn
ei gyfanrwydd) amlygu rhai canlyniadau na ellir penderfynu yn eu
cylch, a gellid disgwyl i’r cynllun, neu hyd yn oed, ei
ddylunio i greu tirweddau newydd naturiol, deinamig. Mae i
hyn oblygiadau o ran penderfynu ar ganlyniadau cyffredinol y
cynllun, a gallai fod angen i gytundebau unigol amlygu cyfeiriad a
chyfradd y newid sy’n ddymunol – pwyntiau ar hyd y
ffordd mewn rheoli ymaddasu yn hytrach na rhyw nod penodol dros
amser hir.
Wedi'i gyflawni’n lleol
- Bydd diffinio
nwyddau cyhoeddus ar y lefel mwyaf lleol posibl yn galluogi pawb i
ddeall y ffordd orau i'w cyflawni. Er mwyn meithrin y
berthynas hirdymor sydd ei hangen i gyflawni maint y canlyniadau
sydd eu hangen, credwn bod angen cymryd cam eithaf sylweddol oddi
wrth yr ymagwedd 'hunan-wasanaeth' a 'rheolwr contract' cyfredol
tuag at roi cyfle i reolwyr tir feithrin cysylltiadau hirdymor
cynaliadwy gydag ymgynghorwyr medrus sydd wedi'u trwytho â
gwybodaeth leol.
- Gyda digon o
adnoddau, byddai'r ymgynghorwyr medrus hyn hefyd yn gyfrwng i gael
mynediad i rwydwaith ehangach o gymorth arbenigol (e.e. mynediad at
gronfa o arbenigwyr a chyfarwyddyd ar flaenoriaethau gan
Bartneriaethau Natur Lleol). Credwn y byddai'r dull hwn yn helpu'r
cynllun i ddatblygu modd o gydgysylltu’r ffynonellau lleol o
gyflenwi, gan hyrwyddo meddwl a chydweithredu arloesol a
chreadigol, sy’n manteisio ar syniadau a ddatblygodd o'r
'gwaelod i fyny' ac sy’n lliniaru'r pwysau ar y cynllun i
ddod o hyd i'r holl atebion.
- Byddai PCC yn
croesawu trafodaeth gynnar gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn
â chyflawni’r cynllun yn y Parciau Cenedlaethol.
Mae gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol gryn brofiad o weithio'n
uniongyrchol gyda'r sector rheoli tir, rhedeg cynlluniau rheoli tir
(megis Tir Eryri, Rhwydwaith Pori Sir Benfro a Gwarchod y Parc
(Arfordir Penfro), Partneriaeth Defnydd Tir y Mynyddoedd Duon),
rheoli tir comin cofrestredig (e.e. Meithrin Mynydd) a gweithio
gyda chymdeithasau (porwyr) tir comin. Efallai y bydd lle i'r
awdurdodau helpu i ddatblygu prosiectau peilot ac
arddangos.
- Mae PCC o'r farn bod
tirweddau dynodedig Cymru yn nwyddau cyhoeddus ynddynt eu hunain
fel tirweddau ac fel cyrchfannau sy'n cael effaith gadarnhaol ar yr
economi lleol a rhanbarthol. Mae cynlluniau i reoli tirweddau
dynodedig yn gyfrwng delfrydol o gefnogi dulliau rhanbarthol a
lleol o gyflawni’r cynllun, gan annog mentergarwch a hyrwyddo
nodweddion rhanbarthol unigryw, cynhyrchu bwyd, rheoli tir, adfer
natur, gwella hawliau tramwy, rheoli treftadaeth, diwylliant,
iechyd, a rheoli ymwelwyr ar 25% o dir Cymru, gan ddatblygu modelau
newydd ar raddfa briodol mewn tirweddau cyfoethog. Mae
uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer tirweddau dynodedig Cymru fel
y'u nodir yn "Gwerthfawr a Chydnerth" yn clustnodi cyfleoedd i
ddatblygu’r cyfryw ddulliau o gyflawni nwyddau
cyhoeddus.
C2:
Sut ellid cymhwyso gwahanol bolisïau a deddfwriaeth
presennol Llywodraeth Cymru ar gyfer adfer bioamrywiaeth wrth
ddylunio a gweithredu'r cynllun Nwyddau Cyhoeddus
arfaethedig?
- Byddai'r cynllun
Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig yn fenter bwysig a rhesymegol wrth
geisio gwireddu nodau llesiant Cymru a rheoli’r adnoddau
naturiol yn gynaliadwy. Yn rhanbarthol, gallai'r cynllun
ategu a helpu i gyflwyno datganiadau ardal (er enghraifft),
cynlluniau adfer natur lleol, cynlluniau llesiant a chynlluniau
rheoli tirwedd gwarchodedig.
- Rhagwelwn y byddai
angen i'r cynllun weithredu o fewn maes rheoleiddio sy'n cynnwys
'gofod atebion’ cynaliadwy. Byddai taliadau'r Cynllun a
grymoedd eraill y farchnad yn pennu’r cydbwysedd o fewn y
gofod hwnnw.
- Mae mesurau digonol
o orfodi’r rheoliadau presennol (e.e. Rheoliadau EIA
(Amaethyddiaeth) (Cymru) 2017, Rheoliadau Llosgi Grug a Glaswellt
ac ati (Cymru) 2008) felly yn hanfodol er mwyn sicrhau bod cosbau
yn rhwystr i dorri rheolau ac nid dim ond costau achlysurol
i’r busnes.
- Awgrymir efallai y
bydd angen ystyried sut y gall lefel uwch o reoleiddio a / neu mwy
o adnoddau i orfodi’r rheoleiddio, wneud mwy o gyfraniad at
gyflawni bioamrywiaeth, fel bod gofyn i'r cyllid sydd ar gael o dan
y cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig weithio'n llai
caled.
- Un man cychwyn
fyddai clustnodi a allai codi statws presennol y Cod Ymarfer
Amaethyddol Da gwirfoddol i statws rheoleiddiol fod yn briodol.
Mae'r cod yn cwmpasu meysydd lle na fyddai gan reoliad newydd fawr
ddim effaith, neu ddim effaith o gwbl, ar fusnes fferm, a gallai
arwain at arbedion costau (lleihau gorbenion, gwella ansawdd y
pridd, a lleihau risg llygredd er enghraifft), gan olygu budd
sylweddol yn gyffredinol i fioamrywiaeth. Mae rheoli ffiniau caeau
yn un o’r cyfryw feysydd.
- Mae angen cydnabod a
lliniaru peryglon tanau gwyllt (gan gynnwys unrhyw risgiau
ychwanegol allai fod yn rhan annatod o’r
cynllun).
- Mae llawer o
dirweddau mwyaf gwerthfawr ac eiconig Cymru dan fygythiad oherwydd
diffyg pori, sy'n ffordd allweddol o gynnal y mwyafrif o
gynefinoedd lled-naturiol sy'n weddill yng Nghymru. Mae cynlluniau
pori lleol yn hanfodol i ailsefydlu a chynnal tir pori cynaliadwy.
Mae PCC o blaid parhau i roi cymorth i gorff pori Cymru gyfan i
hwyluso a chynorthwyo i greu cynlluniau pori lleol ar hyd a lled
Cymru.
C3:
Pa wersi y gellir eu dysgu o’r Rhaglen Monitro a
Gwerthuso Glastir i sicrhau
bod cynlluniau yn cael eu monitro a’u gwerthuso yn effeithiol
i gynorthwyo adfer bioamrywiaeth. Sut ddylai'r
Rhaglen newydd Monitro a Modelu yr
Amgylchedd a Materion Gwledig gael ei dylunio a'i
gweithredu yn effeithiol at y diben hwn?
- Fel yr awgrymir
uchod, gellir cyfuno monitro cytundebau sy'n seiliedig ar
ganlyniadau i ffurfio mesuriadau eang ac ystyrlon o fonitro lefel y
cynllun sy'n cyd-fynd ar lefel is, ac sy’n profi
rhagdybiaethau o fonitro ar lefel uwch. Fel mantais ychwanegol,
gellir dadgyfuno’r data i lefel leol.
- Hefyd awgrymwyd
gennym y bydd angen i gytundebau unigol a'r cynllun yn ei
gyfanrwydd gynnwys, neu yn wir, anelu at greu tirweddau o’r
newydd sy’n gweithredu’n ymarferol ac sy’n
naturiol ddeinamig. Er hynny, gellir asesu effeithiolrwydd y
cynllun o ran mynd i'r afael â ffactorau sy'n effeithio ar
gyflwr natur yng Nghymru, gyda dadansoddiad yn cael ei ddefnyddio i
wahanu effaith newidynnau eraill.
- Os yw priodoleddau
cyflwr amgylcheddol yn y gorffennol (llinell sylfaen) i gael eu
defnyddio fel dangosyddion cyflwr dymunol yn y dyfodol, ar ba
raddfa bynnag, yna rhaid bod rhesymeg glir dros ddewis y llinell
sylfaen honno. Mae llinell sylfaen 1990 yn awgrymu gwahanol
ganlyniadau i linell sylfaen 1970au er enghraifft. Gallai gosod
llinell sylfaen realistig ond heriol (h.y. cynharach) roi ffordd o
gydnabod a gwobrwyo llwyddiannau hanesyddol ar ddaliadau uchel eu
gwerth natur.
- Awgrymwyd gennym
uchod y dylai'r cynllun ganiatáu mwy o hyblygrwydd wrth
bennu canlyniadau rhanbarthol a lleol. Ar y lefel mwyaf gronynnog
(rheolwyr tir ac ymgynghorwyr rheoli tir/swyddogion prosiect), gall
monitro helpu i ysgogi gwybodaeth, cyfranogi ac arloesi mewn
materion rheoli. Mae potensial i reolwyr tir ac aelodau'r gymuned
gyfrannu at fonitro. Gyda llaw, gallai hyn helpu i greu adnodd
olynol i swyddogion lleol.
- Hefyd bydd angen i
fonitro fod yn ei le ar gyfer mesurau sylfaenol ac ar gyfer y llawr
rheoleiddio. O ystyried y pwyslais ar nwyddau cyhoeddus, mae angen
mwy na hunan ardystio, megis rôl corff gwarchod i amddiffyn
buddiannau’r cyhoedd a buddsoddiad
trethdalwyr.
Diolch am y cyfle i
gyfrannu at yr ymchwiliad hwn.